Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
31 Ionawr 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ffigurau marwolaethau mewn adrannau achosion brys yng Nghymru?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid:
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith gadael yr UE ar Gymru ar sail y dadansoddiad o dair sefyllfa gan Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd a ddatgelwyd ddydd Llun?
(5 munud)
(60 munud)
NDM6626
Mick Antoniw (Pontypridd)
David Melding (Canol De Cymru)
David Rees (Aberafan)
Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod contractau preswyl lesddaliad yn parhau i gynrychioli cyfran sylweddol o eiddo a adeiladir o'r newydd yng Nghymru; a
a) bod contractau preswyl lesddaliad yn aml yn cael eu cynnig ar delerau anfanteisiol, gan arwain at niwed i berchennog y cartref; a
b) mai ychydig o amddiffyniad sydd gan berchnogion cartrefi lesddaliad rhag ffioedd afresymol ac oedi afresymol wrth brynu, gwerthu neu wella eu heiddo.
2. Yn nodi gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth y DU ar werthu eiddo lesddaliad a adeiladir o'r newydd yn Lloegr.
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i ddiogelu perchnogion cartrefi yn y dyfodol drwy ddiddymu contractau preswyl lesddaliad yng Nghymru.
Cefnogwyr:
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Russell George (Sir Drefaldwyn)
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Lynne Neagle (Torfaen)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Vikki Howells (Cwm Cynon)
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
(60 munud)
NDM6643 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb: Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo'i Hangen Arnynt (P-05-710), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2017.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2018.
(60 munud)
NDM6642 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2017.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 28 Tachwedd 2017.
(30 munud)
NDM6644 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Agor drysau: sicrhau eglurder ynghylch mynediad i bobl anabl ac argaeledd diffibrilwyr
Galw am system lle mae'r holl fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn arddangos manylion am eu lefel o hygyrchedd i bobl anabl yn ogystal â gwybodaeth am pa offer achub bywyd sydd ar gael i'w defnyddio gan y cyhoedd os bydd argyfwng.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Chwefror 2018